Hybu iechyd yn y gweithle
Mae mwy na thraean o boblogaeth Cymru mewn gwaith. Maent yn treulio mwy na thraean o'u horiau tra'n effro yn y gwaith. Felly, mae'r gweithle yn lle delfrydol i hybu iechyd. Yng Nghymru, collir 10.5 miliwn diwrnod o waith oherwydd absenoldeb salwch, sy'n costio £0.5 biliwn i'r economi.
Mae hybu iechyd yn y gweithle'n mabwysiadu nifer o agweddau:
 |
Ymrwymiad i weithlu iachach trwy ddarparu gwybodaeth ar hyrwyddo iechyd |
 |
Gweithredu polisïau ac arferion sy'n cynorthwyo gweithwyr i wneud dewisiadau iachach |
 |
Cydnabod yr effaith a gaiff cyfundrefnau ar unigolion |
Mae nifer o fanteision trefniadol i'w cael o hybu iechyd yn effeithiol yn y gweithle. Mae'r rhain yn cynnwys:
 |
Cynnydd mewn cynhyrchedd |
 |
Llai o absenoldeb |
 |
Gwell recriwtio a throsiant gweithwyr is |
 |
Lefelau is straen galwedigaethol |
 |
Gwell amgylchedd yn y gwaith |
Rheolwyr
Am wybodaeth bellach ar hybu iechyd yn y gweithle a'r Safon Iechyd Corfforaethol, ewch i:
|
Gwefan Prif Swyddog Meddygol Cymru. |
Gweithwyr
Am wybodaeth bellach ar yr hyn y medrwch chi ei wneud i wella eich diwrnod gwaith, ewch i un o'r gwefannau canlynol am syniadau:
|
Gwybodaeth ar eich iechyd corfforol yn y gwaith, cydbwyso gwaith a theulu a lles emosiynol. |
|
|
|
Mae'r Comisiwn Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am reoli iechyd a diogelwch ym Mhrydain. Yn cynnwys gwybodaeth ar iechyd a diogelwch yn y gwaith. |
|
Eich iechyd yn y gwaith. |
Fel arall, medrwch siarad â'r adran Iechyd a Diogelwch yn y gwaith a medrent roddi gwybodaeth bellach i chi.
|