Damweiniau ac Anafiadau
Diogelwch yn yr Haul
Ynglŷn â chanser y croen
Mae canser y croen yn un o'r rhai mwyaf cyffredin yn y DG ac mae'r nifer o bobl sy'n cael hyn yn cynyddu.
Achosir y rhan fwyaf o ganser y croen trwy niwed gan belydrau UV (uwch-fioled) yng ngoleuni'r haul. Gellid rhwystro'r canser hwn os ydym yn amddiffyn ein hunain rhag yr haul.
Problem ddifrifol
 |
Mae mwy na 70,000 o achosion newydd o ganser y croen yn cael ei ganfod yn y DG bob blwyddyn |
 |
Mae llawer o achosion nad ydynt yn cael eu hadrodd felly mae'r gwir nifer yn debygol o fod yn llawer uwch |
 |
Mae nifer yr achosion wedi mwy na dyblu ers dechrau'r 80au |
 |
Mae mwy na 2,000 o bobl yn marw o ganser y croen bob blwyddyn yn y DG |
Cofiwch y Cod Diogelwch Haul
| S |
Treuliwch amser yn y cysgod rhwng 11-3 o'r gloch |
| M |
Sicrhewch nad ydych byth yn llosgi |
| A |
A gorchuddiwch eich hunan |
| R |
Cofiwch gymryd gofal arbennig gyda phlant |
| T |
Yna defnyddiwch sgrin haul ffactor 15+ |
Mae pobl sydd fwyaf mewn perygl o gael canser y croen yn tueddu i fod â:
 |
Croen golau sy'n llosgi mewn haul cryf |
 |
Gwallt coch neu olau |
 |
Llawer o fannau geni neu frychni haul |
 |
Hanes personol neu deuluol o ganser y croen |
 |
Profiad o losg haul, yn enwedig pan yn ifanc |
Lincaiu
Am wybodaeth bellach
|