Ysmygu
Ysmygu yw'r achos sengl mwyaf o salwch a ellir ei rwystro a marwolaeth gynamserol yn y DG.
Gwyddys fod smygu'n achosi canser yr ysgyfaint ac afiechyd y galon, ac mae'n cyfrannu i ystod o afiechydon a chyflyron eraill. Smygu yw prif achos canser yr ysgyfaint, yn gyfrifol am 90% o holl achosion canser yr ysgyfaint. Tybir bod 120,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yn y DG o achosion sy'n gysylltiedig â smygu, yn cyfrif am ryw bumed ran o'r holl farwolaethau.
Yn 2002/03, roedd 26% o oedolion 16 oed a throsodd ym Mhrydain yn smygu sigaréts.
Mae ffigurau lleol o 2003 yn dangos bod 31.4% o boblogaeth Sir Ddinbych yn smygu; mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Bydd hanner rhai yn eu harddegau sy'n smygu nawr yn marw o afiechydon a achosir gan dybaco os byddant yn parhau i smygu. Bydd chwarter yn marw ar ôl 70 oed a chwarter cyn hynny, gyda'r rhai sy'n marw cyn 70 yn colli, ar gyfartaledd, 21 blwyddyn o'u bywyd. Amcangyfrifir y byddai 6 miliwn o Brydeinwyr, 60 miliwn o bobl yn fydeang, wedi marw o afiechydon cysylltiedig â thybaco.
Rhoi'r gorau i smygu
Gall smygwyr yn Sir Ddinbych sydd eisiau rhoi'r gorau iddi ddefnyddio Gwasanaeth Stopio Smygu Cymru Gyfan. Mae staff wedi eu hyfforddi'n arbennig yn cynnig cyfarwyddyd, cyngor a gwybodaeth ynghyd â mynediad i gynghori a grwpiau cefnogi ledled Cymru. Mae'r gwasanaeth yn hawdd i'w gyrchu; dim ond ffonio Gwasanaeth Stopio Smygu Cymru Gyfan ar 0800 085 2219 i ganfod ble mae'r gwasanaeth lleol a sut i ymuno â grŵp cefnogi.
I gael mwy o wybodath cliciwch yma
Beth sy'n digwydd pan 'rydych yn rhoi'r gorau i smygu
Rhowch y gorau i smygu a bydd eich corff yn dechrau trwsio'r niwed bron ar unwaith, gan ysgogi cyfres o newidiadau iechyd manteisiol sy'n para am flynyddoedd.
O fewn 20 munud mae eich pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon yn dychwelyd i normal. Ar ôl 8 awr mae lefelau nicotin a monocsid carbon yn y gwaed yn lleihau gan hanner a lefelau ocsigen yn dychwelyd i normal. Ar ôl 24 awr, bydd monocsid carbon wedi ei ddileu o'r corff a bydd yr ysgyfaint yn dechrau clirio mwcws a llanastr smygu arall allan.
Linciau i wefannau defnyddiol eraill
|
Mae gwefan Action on Smoking and Health yn rhoi gwybodaeth ar stopio smygu a ffeithlenni ar holl bynciau'n ymwneud â smygu a thybaco. |
|
Gwefan yn cynnwys gwybodaeth ar adnoddau rheoli tybaco. |
|
Gwybodaeth ar Sefydliad Canser yr Ysgyfaint Roy Castle sy'n gweithio tuag at guro canser yr ysgyfaint trwy ymchwil, ymgyrchu ac addysg. Hefyd yn rhoi gwybodaeth ar roi'r gorau i smygu. |
|
Gwefan ar stopio smygu gydag adran i ferched a dynion. |
|
Gwybodaeth ar Ymgyrch Diwrnod Cenedlaethol Dim Smygu a gynhelir ar yr 2il Fercher ym mis Mawrth bob blwyddyn. |
|
|
|