Ffitrwydd
www.sportdenbighshire.co.uk
Pam ymarfer?
Gall ymarfer wneud i chi deimlo'n llai blinedig; dan lai o straen a rhoi mwy o fywiogrwydd i chi. Gall ymarfer hefyd wneud i chi deimlo'n hapusach - mae rhyw fath o effaith gwrth-iselder. Mae ffactor teimlo'n dda ynglŷn ag ymarfer a gall pawb sy'n cychwyn ar raglen ymarfer dda fanteisio arno yn y pen draw.
Faint o ymarfer dylech ei wneud?
Oedolion – 30 munud o weithgaredd cymharol ddwys ar 5 diwrnod bob wythnos
Plant – 60 munud o weithgaredd cymharol ddwys ar 5 diwrnod bob wythnos
Mae llawer o wahanol fathau o ymarfer, ac mae angen i bob un ohonom ganfod un sy'n addas i ni, yr ydym yn ei fwynhau ac y medrwn gadw ato. Syniad da yw cyfuno cwpl o wahanol fathau, er mwyn rhwystro diflastod a rhoi ymarfer da i'r corff cyfan.
YMARFER AEROBIG:
Mae hwn yn effeithiol iawn i losgi calorïau unwaith rydym yn cyrraedd cyfradd ddymunol curiad y galon. Mae ymarfer o'r math hwn yn cynnwys nofio, rhedeg, camu, rhwyfo, sgïo, sesiynau aerobig a beicio.
HYFFORDDIANT CRYFDER:
Gall hyfforddi gyda phwysau adeiladu cyhyrau, neu eu cyflyru er mwyn cael ffigwr lluniaidd neu gryfach. Dylid ei wneud yn ofalus a'i gynyddu'n araf er mwyn osgoi straenio. Dylech gyfuno'r math hwn o hyfforddiant gydag ymarfer aerobig, a sicrhau eich bod yn cynhesu ac oeri'n ofalus. Gellir gwneud hyn yn y gampfa gydag offer arbenigol, neu yn eich cartref.
GEMAU TÎM:
Gall chwaraeon tîm fod yn llawer o hwyl ac mae ychydig o gystadleuaeth yn medru ychwanegu at ein brwdfrydedd. Mae llawer o ganolfannau hamdden lleol a chyfleusterau chwaraeon yn cynnig cynghreiriau ar gyfer timau megis pêl droed. Ewch gyda ffrind, neu gael grŵp at ei gilydd a ffurfio eich tîm eich hun. Mae hwn yn weithgaredd cymdeithasol iawn ac yn ffordd dda o gyfarfod pobl eraill.
YMARFER ARALL:
Gall ymarfer megis yoga a Thechneg Alexander wella osgo, anadlu, cydgyfeiriad ac ystwythder. Gall celfyddydau milwrol megis Karate a Jiwdo wella ein hyder a rhoi dull effeithiol o hunanamddiffyniad.
Cyn cychwyn ar drefn ymarfer, dylech benderfynu beth rydych eisiau ei gyflawni a gosod targedau call, gan gynyddu'n raddol.
Os nad ydych wedi ymarfer am dipyn, neu os ydych yn arbennig o drwm neu anffit, gofynnwch am help proffesiynol a chyngor gan eich meddyg teulu cyn cychwyn.
Ond nid yw ymarfer o angenrheidrwydd yn golygu mynd i'r gampfa; mae gweithgareddau beunyddiol yn cyfrif fel ymarfer:
 |
Cerdded i fyny'r grisiau yn lle defnyddio'r lifft |
 |
Cerdded ar risiau symudol |
 |
Cerdded yn lle mynd yn y car ar deithiau byrion |
 |
Gwneud gwaith tŷ ddwywaith mor gyflym ag arfer |
 |
DIY a garddio, megis peintio neu gribinio dail |
Cysylltwch â'r canolfan hamdden leol am fanylion gweithgareddau
|
Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych |
| http://www.northwalesoutdoorchallenge.co.uk/c_home.html |
|
|
BBC |
|
British Heart Foundation |
|
Big Fat Problem |
|
Comisiwn Coedwigaeth Cymru |
|
Cyngor Chwaraeon Cymru |
|
Chwaraeon Anabledd Cymru |
|
Urbanwalks |
|
Mae Cerdded Eich Ffordd i Hapusrwydd Cymru yn anelu at wella iechyd a lles pobl trwy hybu cerdded cyflym rheolaidd |
|
|
|
Llwybrau beicio mynydd ar gyfer pob gallu. Newyddion a digwyddiadau |
|
Beicio trawsgwlad yn ardal Hiraethog gan ddarganfod Rhostiroedd Hiraethog |
|