Iechyd meddwl a lles
Iechyd meddwl yw sut rydym yn meddwl, teimlo ac ymddwyn. Mae gan un ym mhob pedwar o bobl yn y DG broblem iechyd meddwl ar ryw bwynt yn eu bywydau, sy'n effeithio eu bywyd bob dydd, perthynas ag eraill neu iechyd corfforol.
Gall problemau iechyd meddwl effeithio unrhyw un, beth bynnag fo'u hoedran, hil, rhyw neu gefndir cymdeithasol. Heb ofal a thriniaeth, gall problemau iechyd meddwl gael effaith ddifrifol ar yr unigolyn a'r rhai o'u cwmpas. Bob blwyddyn mae mwy na 250,000 o bobl yn cael eu derbyn i ysbytai seiciatryddol ac mae mwy na 4,000 o bobl yn cyflawni hunanladdiad.
Am wybodaeth bellach ar iechyd emosiynol, sgiliau ymdopi, ymlacio ac anhwylderau a chyflyrau, ewch i:
www.bbc.co.uk/health/conditions/mental_health/
www.mind.org.uk/Mind+in+your+area/Cymru
www.mentalhealth.org.uk
Am fwy o wybodaeth ar gydbwysedd bywyd-gwaith, ewch i:
www.wlbinwales.org.uk
Hafal
Gwasanaethau Hafal yn Sir Ddinbych ar gyfer cleientiaid a theuluoedd:
Gwasanaeth Cymorth Teulu
 |
Gwybodaeth |
 |
Cyngor |
 |
Grŵpiau |
 |
Cyfeillio |
 |
Llais o fewn cynllunio |
Mae Hafal Sir Ddinbychyn yn helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd i weithio tuag at adferiad. Mae pob un o'n gwasanaethau wedi'i gynnal gan Raglen Arferiad Hafal, sy'n galluogi cleientiaid a theuluoedd i reoli'u bywydau ac i adfer.
Mae Rhaglen Wella Hafal yn ymagwedd gyfoes o fynd i'r afael ag afiechyd meddwl.
Fel sefydliad a reolir gan ei aelodau - pobl â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd - mae Hafal wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad o fynd i'r afael ag iechyd meddwl difrifol er mwyn gwneud y Rhaglen Wella mor effeithiol ag y bo modd.
Am beth mae'r Rhaglen?
Nid yw Rhaglen Wella Hafal yn ymwneud yn unig â meddyginiaethau neu therapïau eraill sy'n delio'n uniongyrchol â'r symptomau. Gall y rhain fod yn bwysig iawn, ond mae iechyd meddwl wedi ei adeiladu ar sylfeini ehangach o lawer
I unrhyw unigolyn, efallai mai'r cam mwyaf tuag at wella yw dod o hyd i rywle dda i fyw, cael swydd, sefydlu perthynas dda â'u teulu … fel arfer mae ystod o wahanol bethau sy'n bwysig ar gyfer gwellhad unigolyn.
Dyma le Rhaglen Wella Hafal. Pan mae unigolion yn dioddef o afiechyd meddwl difrifol, mae'r Rhaglen Wella yn cynnig ffordd fwy methodolegol o wella'r holl agweddau ar eu bywyd.
Sut mae'r Rhaglen Wella yn gweithio?
Mae'r Rhaglen Wella yn eich annog i gael ymagwedd "Person Cyfan", gan edrych ar y rhannau canlynol o'ch bywyd er mwyn symud ymlaen:
Yn y broses, mae'r Rhaglen yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth lleol Hafal, gan gynnwys:
 |
Atgyfeirio |
 |
Cyflwyno |
 |
Cynllunio a gweithredu |
 |
Adolygu |
 |
Rheoli gwasanaethau |
 |
Grymuso ehangach |
I gysylltu â Hafal Sir Ddinbych:
 |
Contact |
Angela Crabtree, Cydlynydd Cymorth Teulu |
|
Ffôn |
01745 443050 |
| |
Cyfeiriad |
d/o: Hafod,
Heol Beechwood,
RHYL. LL18 3EU |
| |
E-bost |
denbighshire@hafal.org |
Rheolwr Hafal yn yr ardal hon yw:
|