Sialens Iechyd Sir Ddinbych
Cartref

Beth yw Her Iechyd Sir Ddinbych?

Newyddion a Digwyddiada

Hybu Iechyd yn y Gweithle

Busnesau Lleol sy'n cefnogi Her Iechyd Sir Ddinbych

Ymunwch i gymryd eich her eich hunan!

Linciau

Cysylltu â ni

 

 

 

 

 

Damweiniau ac Anafiadau

Damweiniau yny Cartref
Diogelwch yn yr Haul
Diogelwch Fford
Diogelwych Tan

Damweiniau yn y Cartref

Mae rhyw 2.8 miliwn o ddamweiniau yn y cartref bob blwyddyn pan fo'r dioddefwr yn mynd i'r Uned Ddamweiniau am driniaeth.

Mae dros 40% o holl anafiadau damweiniol i blant yn digwydd yn y cartref a'r ardd. Syrthio yw'r achos mwyaf cyffredin o anafiadau damweiniol yn y cartref.

Mae peryglon posibl ym mhob cartref, megis dŵr poeth, cemegau domestig, grisiau, lle tân, matsis, alcohol a phethau pigog a miniog fel cyllyll a siswrn.

Gall y canlynol helpu rhwystro damweiniau i blant trwy wneud y cartref yn lle diogelach iddynt:

Syrthio

"" Gosod gatiau diogelwch ar dop a gwaelod grisiau
"" Archwilio rheiliau banister neu falconi i sicrhau na fedr plant ddringo arnynt neu syrthio trwyddynt
"" Cadw dodrefn i ffwrdd o'r ffenestri
"" Glanhau arllwysiadau wrth iddyn nhw ddigwydd i rwystro llithro
"" Sicrhau carpedi a matiau rhydd a pheidio â chael ceblau sy'n llusgo

Llosgi a Sgaldio

"" Gosod larymau mwg a'u harchwilio'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gweithio
"" Cadw plant i ffwrdd oddi wrth boptai, pentan a chylchoedd trydan
"" Troi handlenni i ffwrdd tuag at gefn y stôf a defnyddio'r cylchoedd cefn ar gyfer coginio ble bynnag y bo modd
"" Diffodd yr haearn ar unwaith ar ôl ei ddefnyddio a pheidio â gadael y cebl yn hongian
"" Cadw matsis a thanwyr o'r golwg ac allan o gyrraedd plant bach

Gwenwyno

"" Cadwch holl feddyginiaeth o'r golwg ac allan o gyrraedd plant – cwpwrdd dan glo fyddai orau
"" Cadwch holl sylweddau peryglus yn y cynhwysydd gwreiddiol
"" Cofiwch y gall persawr, olewau persawrus ac alcohol fod yn wenwyn i blant

 

Linciau

Am wybodaeth bellach ar ddiogelwch yn y cartref, ewch i'r gwefannau canlynol

 
Ffeithlenni gwych ar leihau damweiniau yn ac o amgylch y cartref
Cymdeithas Frenhinol ar gyfer Rhwystro Damweiniau. Mae'r wefan yn cynnwys ffeithlenni ac adran adnoddau
gwybodaeth ar ddiogelwch yn y cartref

 

© Cyngor Sir Ddinbych 2006
Iechyd RhywiolAlcohol a Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Meddwl a Lles Linciau English Cysylltwch a ni FFitrwydd Bwyd Ysmygu Damweiniau ac Anafiadau